Hanes yr Ysgol
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn 1979. Hi oedd ysgol gyfun gymraeg gyntaf Caerdydd. Ei phrifathro oedd Mr. J.E.M Thomas, a fe arhosodd ef wrth y llyw hyd at 1995. Pan ymddeolodd ef, cymerodd y prifathro presennol, Mr. Huw Thomas yr awennau.
Yn 1986, roedd gormod o ddisgyblion ar y safle gwreiddiol, ac felly symudodd y ddwy flynedd isaf i'r Tyllgoed i ffurfio'r Ysgol Isaf. Eleni, fodd bynnag, gwelwyd trobwynt pwysig arall yn hanes yr ysgol. Gan, unwaith eto, fod gormod o ddisgyblion ar y ddwy safle, penderfynnwyd gwneud estyniadau i'r ddwy safle, a rhannu'r ysgol yn ddwy, gyda'r hen Ysgol Isaf yn cartrefu ysgol newydd Plasmawr, a'r hen safle Uchaf yn cartrefu Glantaf yn ei chyfanrwydd.