RHAI LLWYDDIANNAU DIWEDDAR

--------------------------------------------------------------------

Prifysgolion

Dros y blynyddoedd enillodd nifer o ddisgyblion glod a bri iddyn nhw'n bersonol ac i'r ysgol. Mae ein disgyblion wedi astudio yn yr Academi Frenhinol yn Lludain ac yn Birmingham Conservatoire.

Derbyniwyd disgyblion i astudio yn y Royal Academy of Dramatic Arts ac yn y Bristol Old Vic


Y Celfyddydau

Mae disgyblion yn aelodau o Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ac o Gerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Dewiswyd disgyblion i ymuno â Chwmni Theatr yr Urdd a Chwmni Drama Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae nifer o'n disgyblion yng Nghwmni'r Sherman a Gweithdy Drama HTV.


Chwaraeon

Ym myd chwaraeon dewiswyd disgyblion i gynrychioli Cymru mewn Ffensio, Y Pentathalon, Hoci, Pel rwyd, Tenis, Gwyddbwyll ac Athletau. Mae nifer o ddisgyblion yn chwarae Rygbi yn sgwad Cymru dan 18 a dan 16. Ymhlith llwyddiannau'r timoedd Rygbi mae ennill Cystadleuaeth Saith Bob Ochr Coleg yr Iesu, Aberhonddu a chyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Saith Bob Ochr Prydain ym Mharc Rosslyn. Enillodd tîm dan 16 Gwpan Ysgolion Cymru a Chystadleuaeth Saith Bob Ochr Ysgolion Cymru.
Enillodd disgyblion Glantaf le yn sgwad Pêl Fasged Cymru. Enillodd Tîm dan 13 gystadleuaeth Traws Gwlad Ysgolion Cymru.

Cafodd cyn ddisgybl Rhodri Jones, ei gapio fel peldroediwr dros Gymru, da iawn ti !!

Arholiadau

Gellir ymfalchio yng nghanlyniadau lefel 'A', Uwch Atodol, T.G.A.U. a Tystysgrif Addysg a CGCC yr ysgol.

Y tro cyn, derbyniodd yr ysgol adroddiad calonogol iawn gan yr Arolgwyr sy'n canmol y bartneriaeth gref rhwng yr ysgol a'r rhieni, a'r ethos bositif sydd yn hyrwyddo ymdrechion staff a disgyblion.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol o dan arolygaeth o'r 7fed o Ragfyr hyd at y 11eg o Ragfyr, 1998, ac byddwn yn rhoi canlyniadau yr arolygaeth ar y dudalen, pan mae'r wythnos wedi dod i ben.

--------------------------------------------------------------------

Nôl i dudalen gartref Ysgol Glantaf