Technoleg Gwybodaeth Blwyddyn 7
Tymor 1
Tasg 1 - Ymuno â'r Rhwydwaith
Pwysig Iawn - Eich dynodwr
Byddwch yn defnyddio system rhwydwaith yma yng Nghlantaf. Y mae hyn yn golygu bod pob cyfrifiadur wedi ei gysylltu â phrif gyfrifiadur ("SERVER" ). Bydd eich gwaith yn cael ei storio ar ddisg caled (hard disk) y prif gyfrifiadur, nid ar ddisg caled y cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio. Er mwyn i'r system allu adnabod pwy sydd yn ei ddefnyddio y mae pob defnyddiwr yn cael Dynodwr fel Defnyddiwr y System (System User Identity ).
Eich dynodwr yw:
Y llythyren B
2 rhif olaf eich blwyddyn cychwyn yng Nglantaf. ( e.e. 1999 yw 99 )
Eich dosbarth cofrestri:
Dewi1 - De1
Dewi2 - De2
Dyfrig - Dy1 neu Dy2
Illtud - I1 neu I2
Teilo - T1 neu T2
Llythyren gychwynnol pob un o'u henwau ( ee Bethan Mair Griffiths - BMG )
Felly dynodwr Bethan Mair Griffiths o ddosbarth 7Dyfrig2 sy'n dechrau yng Nglantaf yn 1999 yw - B99Dy2BMG.
Dim bylchau, atalnod ac ati rhwng y cymeriadau.
Ysgrifennwch eich dynodwr ar flaen eich plygell, ac ar y daflen tasgau.
Eich cyfrinair (password) fydd PASSWORD
Nodiadau Cyffredinol
Ymuno â’r Rhwydwaith
A. Teipiwch eich Dynodwr (cofiwch dim bylchau, atalnodau ac ati.) yn y blwch ar gyfer hyn.
B. Teipiwch eich cyfrinair (password) yn y blwch ar gyfer hyn.
C. Cliciwch ar y botwm LOGON.
Nodwch - er mwyn dewis rhywbeth, defnyddiwch y llygoden i symud y pwyntiwr i'r lle priodol, a gwasgwch y botwm chwith. Mae'n bwysig bod y llygoden yn llonydd (still) pan rydych yn gwasgu y botwm a bod blaen y pwyntiwr ar yr hyn rydych yn ei ddewis.
I ddewis Rhaglen (Program)
A. Clicio Dwbl (Double Click) ar Icon (Llun bach) y rhaglen sydd angen.
Gwnewch hyn ar gyfer y rhaglen Prosesydd Geiriau Word.
Ymadael â Rhaglen
A. Dewis File o'r bar dewisiadau sy'n ymddangos ar ran uchaf y sgrin
B. Dewis Exit o’r ddewislen sy'n ymddangos.
NEU
A. Clicio ar y X uchaf:
Copïo ffeil o’r Rhan Gyffredinol (Common Area) i blygell (folder) "My Work"
I gopio ffeil "Rheolau Ymddygiad" o Rhan Gyffredinol Tech. Gwyb. Blwyddyn 7 i "My Work" rhaid:
A. Clic dwbl ar icon Tech. Gwyb. Blwyddyn 7
B. Clic dwbl ar icon Read Tech Gwyb Blwyddyn 7
C. Clic sengl a dal botwm y llygoden i lawr ar icon y ffeil sydd angen ("Rheolau Ymddygiad")
CH. Llusgo'r ffeil i "My Work" a gadel y botwm i fynd
D. Dewis "Copy Here"
Agor ffeil sy'n bodoli (exists)
I agor y ffeil "Rheolau Ymddygiad" sydd nawr wedi ei storio yn "My Work" rhaid:
A. Clic Dwbl (Double Click) ar Icon (Llun bach) y ffeil ("Rheolau Ymddygiad").
Ymadael â’r Rhwydwaith
Cyn ymadael â'r rhwydwaith, gwnewch yn siwr eich bod wedi arbed unrhyw waith sydd angen, ac wedi cau pob rhaglen rydych wedi defnyddio.
A. Clicio ar fotwm Logoff
B. Clicio ar fotwm OK i gadarnhau (confirm)
DS - Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y camau uchod i ymadael â'r rhwydwaith. Bydd unrhyw ddull arall o geisio ymadael yn creu problemau yn y dyfodol gan gynnwys o bosib colli gwaith neu fethiant i ymuno â'r rhwydwaith. Peidiwch byth diffodd cyfrifiadur heb ganiatâd yr athro.
Tasg 2 -
Agor ac Arbed GwaithAgor dogfen (document) Dull UnDefnyddiwch y camau uchod i agor y ddogfen "Rheolau Ymddygiad" sydd wedi cael ei storio yn "My Work". (Agor ffeil sy'n bodoli (exists))Fe ddylai'r ffeil edrych fel hyn:
Arbed (save) y ffeil:
A. Dewis File o'r bar dewisiadau
B. Dewis Save As o'r rhestr ddewisiadau
C. Teipiwch enw rydych am roi i'r ddogfen, defnyddiwch Rheolau 1
CH. Dewiswch y botwm Save
D.S. Rhaid arbed y gwaith yn "My Work" nid ar ddisg caled y cyfrifiadur sef C:
Os yw'r cyfrifiadur wedi cael ei newid i C:, rhaid ei newid yn ôl i "My Work" trwy:
A. Teipio N: yn y bocs ar gyfer enw'r ffeil.
B. Dewis y botwm Save.
C. Dechrau o gam (step) C uchod.
Cau y Ffeil ond nid y rhaglen
|
A. Dewis File o'r bar dewisiadau B. Dewis Close o'r rhestr ddewisiadau |
NEU |
A. Clicio ar y X isaf: |
Agor ffeil Dull DauA. Dewis File o'r bar dewisiadauB. Dewis Open o'r rhestr ddewisiadauC. Dewis enw'r ddogfen ( "Rheolau 1" y tro yma )CH. Dewis y botwm Open
Tasg 3 - Golygu'r Gwaith (Editing)
Golygu - Gwneud newidiadau i'r ddogfen (document)
Rhan Un Cywiro'r Ddogfen (Correcting the Document)
Mae angen gwneud nifer o gywiriadau (corrections) i'r ddogfen. Y mae rhain wedi ei uwcholeuo isod :
Y mae'n bosib golygu'r ddogfen i'w gwella. Cywirwch eich gwaith fel ei fod yn edrych fel hyn. Bydd eich athro yn dangos sut i wneud hyn
Cyn arbed eich gwaith a'i argraffu, gosodwch eich enw a'ch dosbarth fel Pennyn (Header)..
Rhan Dau -Fformatio'r Ddogfen
Gobeithio eich bod wedi sylwi bod rhai geiriau ar y llyfrynwaith hwn wedi cael eu tanlinellu, wedi newid eu maint neu wedi eu hysgrifennu yn drwchus. Gelwir y broses o newid ymddangosiad eich gwaith yn Fformatio ac y mae yn rhwydd iawn i'w wneud.
Eto fe fydd eich athro yn dangos i chi pa gamau sydd i'w dilyn. Fformatiwch eich gwaith ac fe ddylai'r gwaith edrych fel hyn yn awr.
Rheolau Ymddygiad yr Ystafell a'r Rhwydwaith
Ystafell
A. Parchu'r ystafell a'r offer sydd yn yr ystafell.
B. Rhaid cael caniatâd athro cyn mynd i mewn i'r ystafell .
C. Ni chaniateir bwyta nag yfed yn yr ystafell
CH. Gosodwch bapur sgrap yn y bocs SGRAP, papur gwastraff yn y bin. Peidiwch gadael unrhywbeth ar eich ôl, wrth ymadael â'r ystafell.
Rhwydwaith
A. Defnyddiwch Ddynodwr eich hun yn unig. Peidiwch defnyddio Dynodwr unrhyw un arall.
B. Peidiwch cynnau neu ddifodd cyfrifiadur heb ganiatad athro. Mae hyn yn bwysig iawn, wrth ddelio â'r rhwydwaith.
C. Cyfrifoldeb y disgybl yw cyferiadur ( directory ) ei hun. Dyma'r lle bydd y gwaith sy'n cael ei arbed yn cael ei gadw.
CH. Defnyddiwch offer sy'n berthnasol i waith y wers yn unig.
Os ydy'r darn gwaith yn iawn arbedwch ef ac argraffwch un copi.
Mewnosod Lluniau
Fe fydd eich athro yn dangos i chi sut i wneud hyn.
Ceisiwch fewnosod bathodyn yr ysgol ac un bryslun ( Clipart ).
Tasg 3
Ysgrifennwch ffeil o ffeithiau amdanoch chi eich hun ( Fe ddylech fod wedi gwneud darn o waith tebyg naill a'i mewn gwersi Cymraeg neu Saesneg ).
Pwrpas y ffeil yw i roi gwybodaeth i'ch athro dosbarth amdanoch chi eich hun. Felly fe ddylai gynnwys o leiaf y wybodaeth ganlynol
Cyfenw, Enw cyntaf, Cyfeiriad, Dosbarth, Athro/Athrawes Ddosbarth, Hen Ysgol, Brodyr neu Chwiorydd, Hoff bynciau ysgol, Hoff Athrawon ac ati. Gallwch hefyd ychwanegu manylion personol e.e. diddordebau, hoff fwydydd a.y.b.
Dilynwch y camau isod
·
Teipio'r wybodaeth ac argraffwch un copi yr un.·
Fformatiwch eich gwaith ee tanlinellu, canoli ac ati. Argraffwch un copi·
Ychwanegwch luniau megis llun o'ch hun ( wedi ei gymryd gan y camera digidol), bathodyn yr ysgol ac o leiaf un darn bryslun.
Crynodeb o Lefelau a Marciau
Cyfathrebu syniadau ( 20 marc )
|
Cam |
Lefel |
Marc / 20 |
|
Creu y ddogfen |
3 |
Sgil 12 + Cynnwys 4 (15) |
|
Ychwanegu lluniau addas |
4 |
Sgil 16 + Cynnwys 4 (20) |
Gwaith YmestynnolTasg 4
Gan ddefnyddio'r prosesydd geiriau creuwch ddarn o waith sydd yn addas ar gyfer pwnc arall yr ydych yn ei astudio.Dyma rai syniadau:-·
Tudalen papur newydd yn adrodd digwyddiad pwysig mewn Hanes·
Tudalen papur newydd yn adrodd stori geni'r Iesu·
Adroddiad ar arbrawf wyddonol gan gynnwys llun o'r arbrawf·
Tudalen papur newydd yn adrodd digwyddiad pwysig mewn llyfr neu ddrama yr ydych wedi astudioCrynodeb o Lefelau a Marciau
Cyfathrebu syniadau ( 20 marc )
|
Cam |
Lefel |
Marc / 20 |
|
Teipio i mewn testun y ddogfen |
3 |
Sgil 9 + Cynnwys 5 (15) |
|
Ychwanegu lluniau addas |
4 |
Sgil 12 + Cynnwys 5 (20) |
|
Wedi gorffen Tasg 2 a 3 |
5 |
Sgil 15 + Cynnwys 5 (20) |