Enw:__________________________ Dosbarth:____________
LOGO
Yn y darn hwn o waith y rydych yn mynd i ddefnyddio’r cyfrifiadur i reoli CRWBAN sydd ar y sgrin. Dychmygwch fod pensil wedi ei glymu i gynffon y crwban ac felly pam fydd y crwban yn symud y mae’n gadael llinell ar ei ol.
Mae'n bwysig sylweddoli bod y CRWBAN yn dilyn eich cyfarwyddiadau yn union. Felly, os ydych yn rhoi cyfarwyddiadau anghywir i'r CRWBAN, fe fydd yr hyn sy'n cael ei greu gan y CRWBAN hefyd yn anghywir - sef Sbwriel I Mewn, Sbwriel Allan neu SIMSA (yn Saesneg - Garbage In Garbage Out, neu GIGO).
Y Cyfawrwyddiadau
Teipiwch y cyfarwyddiadau isod ac ysgrifennwch beth sydd yn digwydd.
|
Y Cyfarwyddid |
Beth sy'n digwydd? |
|
FD 50 |
|
|
RT 90 |
|
|
BK 50 |
|
|
LT 90 |
|
|
CS |
|
|
PU FD 50 |
|
|
PD BK 50 |
|
|
Graphicswrite "helo |
Siapau syml
Teipiwch y cyfarwyddiadau hyn, ac yna argraffwch un o’r siapau.
Cofiwch nodi eich enw trwy ddefnyddio graphicswrite "eich enw
|
FD 70 RT 90 FD 70 RT 90 FD 70 RT 90 FD 70 RT 90 |
FD 70 RT 120 FD 70 RT 120 FD 70 RT 120 |
FD 70 RT 72 FD 70 RT 72 FD 70 RT 72 FD 70 RT 72 FD 70 RT 72 |
|
Siap : - |
Siap : - |
Siap : - |
Ail - Adrodd Cyfarwyddiadau
Edrychwch ar y cyfarwyddiadau am y triongl
|
FD 70 RT 120 FD 70 RT 120 FD 70 RT 120 |
Pa 2 linell sydd yn cael eu hailadrodd ? Sawl tro maent yn cael eu hailadrodd ? Felly gallwn ail ysgrifennu’r uchod mewn ffordd llawer mwy syml megis repeat 3 [ fd 70 rt 120 ] |
Sawl tro yr ydynt yn ailadrodd i wneud triongl ?
Sawl ochr sydd gan driongl ?
Beth yw maint yr ongl yn y cyfarwyddyd uchod h.y. RT ?
Felly gwelwn ein bod yn ail adrodd 3 gwaith, y mae gan triongl 3 ochr a maint yr ongl ydy 120° .
Cyfanswm onglau mewnol unrhyw siâp fydd 360° ac y mae 360° wedi rhannu gan 3 yn hafal i 120° .
Astudiwch y tabl isod
|
Enw’r Siap |
Ochrau |
Maint yr ongl = 360 / ochrau |
Cyfarwyddyd |
|
Triongl |
3 |
120 |
Repeat 3 [ fd 70 rt 120 ] |
|
Sgwar |
4 |
90 |
Repeat 4 [ fd 70 rt 90 ] |
|
Pentagon |
5 |
72 |
Repeat 5 [ fd 70 rt 72 ] |
|
Hecsagon |
6 |
Repeat |
|
|
Heptagon |
7 |
51.43 |
Repeat |
|
Octagon * |
8 |
Repeat |
|
|
Nonagon * |
9 |
Repeat |
|
|
Decagon * |
10 |
Repeat |
* Argraffwch y 3 siâp olaf.
Gweithdrefnau
Gallwn ddefnyddio gweithdrefnau i hwyluso’r broses o lunio siapau cymhleth.
I greu gweithdrefn i dynnu triongl teipiwch y canlynol:
to triongl
repeat 3 [ fd 70 rt 120 ]
end
Er mwyn rhedeg y weithdrefn teipiwch y gair ‘triongl’.
Crëwch weithdrefnau ar gyfer sgwâr a phentagon.
Creu siapau cymhleth.
Ar ôl creu gweithdrefnau ar gyfer triongl, sgwâr a phentagon gallwn yn awr eu defnyddio i greu siapau cymhleth iawn e.e. teipiwch y canlynol:
repeat 4 [ triongl rt 90 ]
repeat 6 [ sgwâr rt 60 ]
Tasg Estynedig
Creuwch rai siapiau cymleth eich hun ac argraffwch 2 ohonynt. Ysgrifennwch y cyfarwyddiadau yr oeddech wedi eu defnyddio i wneud y siap ar waelod yr argraffiad.