Enw:_________________________ Dosbarth:______________
Tasg 1 - Basdata Ffrindiau
Eich tasg fydd i greu basdata a fydd yn dal manylion holl aelodau'r dosbarth.
Cyn dechrau y mae'n bwysig eich bod yn deall y termau canlynol - Record a Maes.
Edrychwch ar yr esiampl ganlynol.
|
Rhif Aelodaeth |
Cyfenw |
Enw Cyntaf |
Rhyw |
Ardal |
Dyddiad Geni |
|
1 |
Jones |
John |
B |
Ystum Taf |
12/11/83 |
|
2 |
Morgan |
Siân |
M |
Eglwys Newydd |
19/9/85 |
|
3 |
Evans |
Ifan |
B |
Cyncoed |
19/1/84 |
|
4 |
Rees |
Elgan |
B |
Cyncoed |
20/6/86 |
Gwybodaeth am sawl person sydd yn y tabl uchod ?
Y mae gwybodaeth am un person yn cael ei ddal mewn un record felly sawl record sydd yn y tabl ?
Sawl darn o wybodaeth ( Cyfenw, ac yn y blaen ) sydd yn cael eu dal am bob person ?
Y mae un eitem o wybodaeth yn cael ei storio mewn un maes felly sawl maes sydd yn y tabl ?
Felly gwelwn fod record yn dal yr holl wybodaeth am un peth e.e. un person neu un tap fideo mewn basdata siop fideo.
Y mae maes yn dal un eitem o wybodaeth am y peth e.e. Cyfenw, Ardal ac ati.
Tasg 2 - Basdata Ffrindiau John Jones
Mae John Jones wedi creu basdata i ddal gwybodaeth am ei ffrindiau yn yr ysgol.
Dyma'r meysydd sydd yn cael eu dal ymhob record
|
Teitl y Maes |
Disgrifiad o gynnwys y maes |
|
Rhif |
Y Maes Allweddol |
|
Cyfenw |
Cyfenw'r Disgybl |
|
Enw Cyntaf |
Enw cyntaf y disgybl |
|
Stryd |
Cyfeiriad stryd y disgybl |
|
Ardal |
Yr ardal lle mae'r disgybl yn byw |
|
Tref |
Tref lle mae'r disgybl yn byw |
|
Côd Post |
Côd post y disgybl |
|
Dyddiad geni |
Dyddiad geni y disgybl |
|
Rhif ffôn |
Rhif ffôn y disgybl |
|
Rhyw |
Bachgen neu Merch |
|
Dosbarth |
Dosbarth y disgybl |
Dyma esiampl o ddau record
|
Teitl y Maes |
Record 1 |
Record 2 |
|
Rhif |
1 |
13 |
|
Cyfenw |
Jones |
Evans |
|
Enw Cyntaf |
John |
Megan |
|
Stryd |
23 Heol y Bont |
67 Clos Dyfi |
|
Ardal |
Ystum Taf |
Eglwys Newydd |
|
Tref |
Caerdydd |
Caerdydd |
|
Côd Post |
CF4 2KL |
CF5 7QB |
|
Rhif ffôn |
(01222)334566 |
(01222)346721 |
|
Dyddiad geni |
23/05/86 |
17/07/87 |
|
Rhyw |
bachgen |
merch |
|
Dosbarth |
8Dewi1 |
9Dyfrig1 |
Agor y Basdata
Edrychwch ar y ffenestr "Common Work". Llusgwch y ffeil "Ffrindiau" i fewn i’r ffenestr 'My Work' . Yna cliciwch ar y ffeil "Ffrindiau" .
A ydyw'r data'n gywir?
1. Ewch i'r record ar gyfer Martin Thomas . ( Defnyddiwch y botymau priodol )
Beth sydd o'i le ar y data sy'n cael ei roi am Martin?
__________________________________________________________________________________________________________________________
Sut bydd y camgymeriad yma yn effeithio ar ddefnydd John o'r basdata ?
__________________________________________________________________________________________________________________________
Beth yr ydych yn credu y dylai fod yn y maes hyn?
Newidiwch y data yn y maes i'r un cywir.
2. Ewch i'r record ar gyfer Jonathon Morris. ( Eto Defnyddiwch y botymau priodol )
Beth sydd o'i le ar y data sy'n cael ei roi am Jonathon?
__________________________________________________________________________________________________________________________
Sut bydd y camgymeriad yma yn effeithio ar ddefnydd John o'r basdata ?
__________________________________________________________________________________________________________________________
Beth yr ydych yn credu a ddylai fod yn y maes hwn ?
Newidiwch y data yn y maes i'r dyddiad cywir.
3. Pam ei bod hi'n bwysig sicrhau mai data cywir sy'n cael ei gadw ar gyfrifiadur?
Mae'n bwysig bod y data sy'n cael ei gadw ar gyfrifiadur yn gywir, oherwydd mae data anghywir yn arwain at atebion __________________ wrth holi'r cyfrifiadur.
Newid y data ar y basdata
Dileu record
Y mae Mark Cooper wedi symud i ysgol arall. Felly, rhaid dileu'r record o'r ffeil.
Dull:
1. Darganfod y record (fel o'r blaen)
2. Clicio ar y botwm priodol
3. Dewis YES yn y blwch neges.
Ychwanegu record
Mae yna ferch newydd wedi symud i'r ysgol, ac y mae angen ei hychwanegu i'r basdata.
Dewiswch y botwm priodol ac yna ychwanegwch y disgybl isod.
Dyma’r wybodaeth:
|
Teitl y Maes |
Record 1 |
|
Rhif |
16 |
|
Cyfenw |
Parri |
|
Enw Cyntaf |
Enlli |
|
Stryd |
47 Stryd Hamilton |
|
Ardal |
Pontcanna |
|
Tref |
Caerdydd |
|
Côd Post |
CF1 2YT |
|
Rhif ffôn |
(01222)336607 |
|
Dyddiad geni |
23/05/84 |
|
Rhyw |
merch |
|
Dosbarth |
10Teilo3 |
Ychwanegwch wybodaeth amdano chi i'r basdata hefyd.
Mae angen argraffu'r fersiwn newydd yma o'r basdata.
Gwnewch hyn trwy ddewis y botwm priodol ar y sgrin
Ymholiadau ( Queries )
Defnyddiwch y basdata i ateb yr ymholiadau isod. Ysgrifennwch yr amodau rydych yn eu defnyddio o dan bob ymholiad:
Sylwer: Ymhob achos rhaid dangos Cyfenw ac Enw Cyntaf y Disgybl yn ogystal ag unrhyw feysydd arall.
Ymholiadau syml
e.e.
Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd yn byw yn Y Barri
Yr amod:
Tref = Y Barri
Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd â'r enw 'John'
Yr amod:
Enw Cyntaf = John
Rydych am weld yr holl blant sydd â’r cyfenw 'Davies'
Yr amod:
Cyfenw = Davies
Atebwch y cwestiynau canlynol. Cofiwch ysgrifennwch yr AMOD yn unig i fewn i'r blwch priodol:
1. Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd yn byw yng Nghaerdydd
Yr amod:
2. Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd yn 10Teilo3. Rhaid argraffu canlyniadau'r ymholiad.
Yr amod:
3. Rydych am gael rhestr o'r holl ferched. Rhaid argraffu canlyniadau'r ymholiad.
Yr amod:
4. Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd yn byw yn Cathays.
Yr amod:
5. D.S. Tasg Arbennig (Special Task) - rhaid cael cymorth yr athro.
Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd ym Mlwyddyn 8. Rhaid argraffu canlyniadau'r ymholiad.
Yr amod:
Ymholiadau sydd wedi eu Cyfuno
e.e
Rydych am gael rhestr o'r holl fechgyn sydd yn 8Dewi1
Yr amod
Rhyw = bachgen AC (AND) Dosbarth = 8Dewi1
Rydych am gael rhestr o'r holl blant sydd yn byw yn Nhreganna neu Pontcanna
Yr amod
Ardal = Treganna NEU (OR) Ardal = Pontcanna
Rydych am gael rhestr o bawb nad yw yn byw yn Nhregatwg
Yr amod:
Ardal = NID (NOT) (Tregatwg)
Yr amod:
2. Rydych am weld yr holl blant sydd yn 7Dyfrig neu 7Teilo1
Yr amod:
3. Rydych am restr o'r holl fechgyn nad ydynt â'r cyfenw Jones.
Yr amod:
4. Y mae gyrrwr un o'r bysiau ysgol wedi darganfod tocyn bws ar gyfer Philip Evans. I ddarganfod ei wybodaeth pa amod a fyddech yn defnyddio .
Yr amod:
5. Rydych am weld rhestr o'r rhai nad ydynt yn byw yn Cathays.
Rhaid argraffu canlyniadau'r ymholiad.
Yr amod:
Tasg Estynedig
Creuwch ffurflen casglu gwybodaeth fel bod eich ffrindiau yn gallu ysgrifennu i lawr eu manylion personol i ychwanegu at y basdata uchod. Rhaid cael lle i gofnodi yr holl feysydd sydd yn y basdata uchod.