Y Caffi

Y Sefyllfa

Y mae’r person sy'n gyfrifol am ffreutur yr ysgol am greu delwedd (image) newydd. Mae wedi penderfynu cynnig dau fath o fwydlen yn y ffreutur, un ar gyfer pobl sydd am fwyta'n iachus (healthy eating), ac un arall ar gyfer bwyd cyflym a byrbrydau. Ar hyn o bryd maent wedi penderfynu ar yr enwau canlynol:

Ffreutur Ffit - Prydiau bwyd iachus

Bar Byrgar - Bwydydd Cyflym a Byrbrydau

 

Tasg 1Creuwch fwydlen syml a fydd yn addas ar gyfer bob un o'r themâu uchod.Meddyliwch yn ofalus am y math o gwsmer a fydd yn mynd at y ddau fath o gaffi a pha fwydydd y byddant am ei gael.

Gallwch chi feddwl am enwau gwell?

Tasg 2Creuwch logo a fydd yn addas ar gyfer bob un o'r themâu uchod a'i fewnosod i'ch bwydlenni.

Tasg 3Gosodwch luniau i mewn i'ch gwaith i'w wneud yn fwy deniadol. Fe allwch ddefnyddio brysluniau, lluniau sydd wedi cael ei sganio i mewn neu luniau a dynnwyd gan ddefnyddio'r camera digidol.

Tasg 4Ceisiwch hefyd newid diwyg (lay out) y ddogfen i'w gwneud yn fwy deniadol.

Pwysig - cadwch hyd y fwydlen i 2 tudalen A4

Tasg 5

Creuwch hysbyseb ar ffurf poster ar gyfer pob un o'r themâu uchod.

Tasg 6

Mae rheolwr lluniaeth (catering) yr ysgol am roi gwahoddiad i ddau berson enwog lleol i dynnu sylw at y newid delwedd.

Ysgrifennwch lythyr at ddau berson enwog yn eu gwahodd i agoriad swyddogol y ffreutur o dan ei ddelwedd newydd.

Tasg Estynedig

Mae rheolwr lluniaeth yr ysgol yn bles iawn gyda'ch ymdrechion, ac y mae'n gofyn i chi greu bwydlen a hysbyseb a fyddai'n gallu cael ei gyhoeddi fel tudalen ar safwe'r ysgol (school's website).

Crynodeb o Lefelau a MarciauCyfathrebu syniadau ( 20 marc )

Tasg

Lefel

Marciau

Bwydlen wreiddiol (Tasg1) 3 Sgil 9 + Cynnwys 2
Ychwanegu logo a lluiau ar gyfer un bwydlen (Tasg 2 a 3) 4 Sgil 12+Cynnwys 2
Ychwanegu logo a lluiau ar gyfer y ddwy fwydlen, posteri, llythyron (Tasg 2 a 3 a tasg 5 a 6) 5 Sgil 15+Cynnwys 2
Gwella'r bwydlenni, posteri, llythyron - mireinio (refine) (Tasg 4, 5 a 6) 6 Sgil 18+Cynnwys 2
Tudalen we (Tasg Estynedig) 7 Sgil 21+Cynnwys 2

Gwaith Estynedig (Lefel 8)

Defnyddiwch y sgiliau rydych wedi eu defnyddio yn y tasgau uchod i helpu gyda pharatoadau Ffair Gaeaf Glantaf. Mae trefnydd y Ffair yn gofyn i chi helpu trwy greu'r dogfennau canlynol: